Opportunities for everyone involved in vocational education and training in the UK

Cymraeg

Cymraeg

Mae rhaglen Leonardo da Vinci yn rhan o Raglen Dysgu Gydol Oes newydd y Comisiwn Ewropeaidd ac fe’i cynlluniwyd i greu gweithlu medrus trwy gyfrwng partneriaethau Ewropeaidd. Mae Leonardo yn ariannu lleoliadau gwaith mewn gwledydd Ewropeaidd eraill, ynghyd â datblygu a throsglwyddo deunyddiau hyfforddi gyda’r amcan o wella darpariaeth Addysg a Hyfforddiant Galwedigaethol (AHG) ar draws Ewrop. Welsh flag

Mae Leonardo yn canolbwyntio ar wella ansawdd a pherthnasedd AHG, ac mae hwn yn gyfle cyffrous i sefydliadau greu partneriaethau Ewropeaidd, cyfnewid arfer gorau, cynyddu arbenigedd eu staff a meithrin sgiliau dysgwyr.

Beth allwch chi ei wneud?

Symudedd i ddysgwyr, hyfforddeion a staff

Gallwch anfon hyfforddeion a phobl yn y farchnad lafur i wlad Ewropeaidd arall ar leoliad gwaith er mwyn eu galluogi i gael sgiliau a phrofiad go iawn ym maes cyflogaeth. Neu, gall eich staff gymryd rhan mewn lleoliadau gwaith byr er mwyn dysgu sgiliau a ffyrdd newydd o weithio gan gydweithwyr o Wledydd Ewropeaidd eraill.

Partneriaethau

Gallwch ddatblygu’r arfer gorau ym maes AHG yn Ewrop trwy weithio gyda chyd-sefydliadau ar draws Ewrop i baratoi deunyddiau hyfforddi arloesol. Bydd prosiectau Trosglwyddo Arleosedd yn canolbwyntio ar addasu deunyddiau hyfforddi i anghenion dysgwyr a busnesau yn y gwledydd partner. Neu, os yw ariannu Ewropeaidd yn faes newydd i chi, gallwch gymryd rhan mewn prosiect Partneriaeth i gyfnewid gwybodaeth, cydweithio a darganfod ffyrdd newydd o weithio.

Cyfarfodydd Ewropeaidd

Os oes gennych ddiddordeb yn y rhaglen ac os oes gennych rai partneriaid mewn golwg, gallwch wneud cais am arian i drefnu cyfarfod Ewropeaidd i drafod eich syniadau am brosiect gyda’ch partneriaid. Ac os oes angen partneriaid mewn gwledydd eraill arnoch, gallwn eich helpu i ddod o hyd iddynt!

A allwch chi gymryd rhan?

Mae Leonardo ar gael i bob sefydliad sy’n ymwneud ag AHG. Rydym yn awyddus i ehangu cyfranogiad yn y rhaglen ac i annog sefydliadau o bob math i fanteisio ar y cyfleoedd ariannu newydd hyn.


Sut allwch chi gael gwybod mwy?

I gael gwybod mwy am y cyfleoedd sydd ar gael dan raglen Leonardo, ffoniwch ni ar 0845 199 2929 neu anfonwch e-bost atom, leonardo@ecotec.com.

Wales Film 2008
Watch the LLP Wales film (64000kB)*

Helpline: 0845 199 2929

Other Funding Programmes

European study visits, projects and networks

Opportunities for adult education providers and learners in the UK

Leonardo UK National Agency, ECOTEC Research & Consulting Ltd,
Haines House, 28-34 Albert Street, Birmingham, B4 7UD

Site by Nemisys